Lansio cwrs newydd i Arbenigwyr Meddygol gan Academi SPD
Mae'r Academi Ryngwladol ar gyfer Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetigau wedi cyflwyno cwrs newydd i weithwyr meddygol proffesiynol, sy’n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer personél sy'n ymwneud â sicrwydd ansawdd dylunio dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra, fesul darn.
Menter yn PDR yw'r Academi Ryngwladol ar gyfer Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetigau (SPD) sy'n darparu adnoddau addysgol i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus arbenigwyr meddygol a pheirianwyr dylunio ledled y byd. Nod Academi SPD, sy’n arbenigo mewn creu fideos tiwtorial addysgol mynediad agored a chyrsiau achrededig, yw addysgu a rhoi i weithwyr meddygol proffesiynol y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddylunio mewnblaniadau a phrosthetigau genol-wynebol wedi’u teilwra sy’n cydymffurfio ag ISO 13485.
Trwy ddylunio â chymorth cyfrifiadurol (CAD), mae adran Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetig PDR wedi bod yn asio technolegau dylunio arloesol â gwasanaethau iechyd ledled y byd ers ei sefydlu ym 1998, gan gynnig gweithdrefnau llawfeddygol chwyldroadol i'r cyhoedd a throsglwyddo’r doniau hyn. Daeth yr angen am yr Academi SPD a'i chyrsiau o esblygiad cyfnewidiol technoleg; dyna pam y crëwyd Academi SPD gan Emily Parker-Bilbie a'r Athro Dominic Eggbeer o PDR fel llwyfan addysgol i staff gofal iechyd ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol.
Mae’r cwrs newydd, Dyfeisiau Meddygol wedi’u Teilwra: Systemau Rheoli Ansawdd, wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer personél sy'n ymwneud â dylunio, datblygu, cynhyrchu a chyflenwi dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra sy’n cydymffurfio ag ISO 13485. Addysgir y cwrs byr achrededig ar lefel gradd Meistr ar-lein, yn rhan-amser, ar hyd cyfnod o ddeuddeg wythnos gyda nifer cyfyngedig o gyfranogwyr i sicrhau eich bod yn cael profiad eithriadol gydag arbenigedd wrth law. Gyda thair darlith ar ddeg manwl ar ffurf fideos a gynhyrchwyd yn broffesiynol, gall y cyfranogwyr ddysgu ar eu cyflymder eu hunain; gellir gwylio’r darlithoedd yn unrhyw le ac ar unrhyw bryd a gellir eu hoedi a'u hail-wylio.
Cyflwynir y cwrs gan Dominic ac Emily, a fyddant hefyd yn darparu hyfforddiant arbenigol un i un ac asesiadau atgyfnerthu dysgu gydag adborth personol. Â chymorth yr hyfforddwyr, bydd y cyfranogwyr yn dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol oblygiadau datblygu system rheoli ansawdd mewn lleoliad gofal iechyd cyhoeddus neu ddiwydiannol; yn gyntaf, yn dadansoddi gofynion cymalau 1 – 6 ISO 13485:2016, y Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol (MDR), a rheoliadau eraill ar gyfer dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra. Yna, bydd y cyfranogwyr yn datblygu dogfennaeth system rheoli ansawdd, gan ganolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra’n barod i'w defnyddio mewn system rheoli ansawdd.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd arbenigwyr yn gallu deall a chymhwyso cysyniadau system rheoli ansawdd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra. Byddant hefyd yn gallu nodi gofynion perthnasol wrth ddylunio a datblygu dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra a deall sut i ddewis a gweithredu rheolaethau priodol trwy gydol cylch oes cynnyrch. Yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd, byddant yn derbyn Cymhwyster Trawsgrifiad Lefel Meistr 20 credyd a 13 pwynt DPP dilysadwy.
Mae’r Academi SPD yn ymroddedig i ddarparu addysg o ansawdd i weithwyr meddygol proffesiynol a chefnogi dylunio dyfeisiau meddygol wedi’u teilwra a datblygiadau mewn gweithgynhyrchu. Dim ond un ffordd o gyrraedd y nod honno yw ein cwrs newydd!
Mae’r cofrestru ar gyfer y cwrs bellach ar agor, a’r dyddiad cychwyn yw dydd Llun, 3ydd Hydref. Fel arall, os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, cofrestrwch ar gyfer y rhestr aros i dderbyn gwybodaeth am ddyddiadau'r cwrs yn y dyfodol.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!