Ambiente a Sioe Gwobrau Dylunio'r Almaen 2023
Cynhaliwyd sioe fasnach Ambiente eleni rhwng 3 a 7 Chwefror yn Frankfurt, yr Almaen, ac mae eisoes yn cael ei hystyried fel y sioe fwyaf llwyddiannus iddynt ei chael hyd yma. Mae'n dra hysbys bod Ambiente yn ffair fasnach ryngwladol arweiniol ar gyfer nwyddau defnyddwyr - gan arddangos cynnyrch o'r byd bwyta a choginio, eitemau i'r cartref, dodrefn, addurniadau a dylunio mewnol. Wrth ystyried newidiadau a dyfodol y farchnad, mae'n cynnig trosolwg trylwyr o'r detholiad o nwyddau defnyddwyr sydd ar gael ledled y byd. Mae'n darparu cyfuniad unigryw o syniadau a chynhyrchion ac yn gweithredu fel canolfan allweddol ar gyfer tueddiadau ac arloesedd y byd yn y diwydiant nwyddau cartref.
Mynychodd Michelle Letherby, Ymgynghorydd Datblygu Busnes PDR, y sioe fasnach eleni yn Frankfurt ac mae'n rhannu rhai o'r uchafbwyntiau.
“Roedd mynychu'r sioe hon yn gyfle gwych i PDR ailgysylltu â chleientiaid presennol ac i ffurfio cysylltiadau newydd. Hon oedd sioe fasnach fyw gyntaf Ambiente ers dechrau'r pandemig yn 2020 ac roedd yr ymateb yn rhagorol!
“Roedd yn gyfle i gwmnïau ac unigolion arddangos eu cynhyrchion a'u dyluniadau blaengar. Roedd y sioe yn cyflwyno rhai o'r tueddiadau a'r datblygiadau arloesol diweddaraf yn y sector nwyddau cartref, ac roedd modd i mi fwydo'n ôl i'n tîm dylunio yn PDR.”
Un o'r uchafbwyntiau oedd sioe Gwobrau Dylunio'r Almaen 2023 a gynhelir yn Ambiente yn y Forum Messe. Dyfernir Gwobrau Dylunio'r Almaen sy'n enwog yn rhyngwladol i gwmnïau y mae eu cynhyrchion a'u prosiectau arloesol yn dod i’r brig yng nghategorïau Dylunio Cynnyrch Rhagorol, Dylunio Cyfathrebu Rhagorol a Phensaernïaeth Rhagorol. Yn ogystal â gwobrau "Enillydd" a "Chydnabyddiaeth Arbennig", rhoddodd y panel beirniaid gyfanswm o 81 o wobrau "Aur" eleni - yr anrhydedd uchaf yng Ngwobrau Dylunio'r Almaen. Roedd PDR yn falch o fod ymhlith enillwyr gwobrau “Aur” yr Almaen am Ddylunio, gydag olwyn lywio ailgylchadwy gyffyrddadwy arloesol, Cercle. Casglodd Michelle y wobr ar ran tîm PDR ac roedd yn falch o weld yr ymateb cadarnhaol i'n cynnyrch.
Yn ogystal â'r seremoni wobrwyo, cymerodd PDR ran hefyd mewn sgyrsiau cynhyrchiol â chleientiaid a chydweithwyr posibl yn y sioe, a fydd, gobeithio, yn arwain at ragor o gyfarfodydd a chyfleoedd yn y dyfodol.
Un o'r prif bethau a ddysgwyd o sioe Ambiente oedd pwysigrwydd rhyngweithio wyneb yn wyneb ym myd busnes. Ar ôl cyfnod hir o weithio o bell a digwyddiadau rhithwir, roedd y mynychwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb a chael sgyrsiau ystyrlon gyda chydweithwyr yn y diwydiant. Eglura Michelle: “Roedd pawb yn dychwelyd yn fwy cyffrous gyda mwy o syniadau, ac yn meddwl bod y digwyddiad hyd yn oed yn well nag yr oedd yn arfer bod. Mae'r bwlch mewn digwyddiadau wedi rhoi cyfle i bobl gnoi cil ar y sefyllfa a meddwl er bod gweithio ar-lein yn bosibl, maen nhw'n mynd allan eto, ac yn mwynhau hynny ac yn sylweddoli pa mor dda yw cael y cysylltiad hwnnw â phobl unwaith eto a chael sgyrsiau sydd ddim yn rhai ar y ffôn neu ar sgrin.”
I gloi, roedd Ambiente 2023 yn ddigwyddiad llwyddiannus a hirddisgwyliedig a oedd yn rhoi llwyfan i gwmnïau ac unigolion arddangos eu cynhyrchion, cymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon, a chael mewnwelediadau i'r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant.
Camau nesaf
Cewch wybod mwy am PDR neu cysylltwchos oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni.