The PDR logo
Mai 08. 2024

Gwobrau iF – Berlin 2024

Ddydd Sul fe deithiodd pedwar aelod o’n tîm dylunio masnachol o Gymru i’r Almaen ar gyfer Gwobrau Dylunio iF 2024 yn Berlin. Mae Gwobrau Dylunio iF wedi bod yn cydnabod rhagoriaeth ar draws disgyblaethau dylunio amrywiol ers 1953 ac yn eu 70fed flwyddyn derbyniwyd dros 10,000 o geisiadau o dros 70 o wledydd gwahanol.

Roedd yn anrhydedd i ni dderbyn dwy Wobr Dylunio iF eleni ac rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi cadw ein teitl fel Stiwdio Ddylunio iF orau yn y DU. Fe wnaethom ennill gwobrau yn y categorïau Cynnyrch a Chysyniad Proffesiynol yn y drefn honno ar gyfer Hydrobean, dyfais monitor ansawdd dŵr a ddatblygwyd gennym ar gyfer Prifysgol Caerdydd, ac ar gyfer ReGen, cadir wthio cylchol i fabanod a luniwyd gennym ar gyfer gwneuthurwr cadeiriau gwthio blaenllaw ym Mhrydain, iCandy.

Mynychodd ein cyfarwyddwr Jarred Evans, y Cynllunydd CMF Katie Forrest Smith, a’r Dylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Catriona Mackenzie y digwyddiad eleni. Ar ôl diwrnod o archwilio prifddinas fywiog yr Almaen, cyrhaeddodd y tîm y Friedrichstadt-Palast am noson yn llawn unigolion talentog ym maes dylunio byd-eang i ddathlu'r prosiectau ysbrydoledig sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r prosiectau buddugol yn cael eu dewis yn dilyn proses feirniadu drylwyr sy'n cynnwys paneli o arbenigwyr dylunio yn eu categorïau priodol. Mae ein Cyfarwyddwr Jarred Evans wedi bod yn aelod o banel beirniaid iF yn y categori Dyfeisiau Meddygol am dair blynedd yn olynol. Gallwch ddarllen mwy am ei gyfnod ar y panel eleni yma.

Yn dilyn rhai sgyrsiau gwych yn ystod derbyniad gyda’r nos, cymerodd y tîm eu seddi o flaen llwyfan theatr mwyaf y byd ar gyfer y seremoni wobrwyo. Dechreuodd pethau mewn ffordd anhygoel ac annisgwyl gyda chyflwyno 'Gwobr Cyflawniad Oes' gyntaf erioed iF i'r dylunydd diwydiannol Almaenig byd-enwog, Dieter Rams. Cafodd y gynulleidfa eu syfrdanu gan y cyfle i weld dylunydd sydd mor allweddol yn y ffordd yr ydym yn ystyried gwaith dylunio heddiw sydd wedi ysbrydoli’r mwyafrif unigolion dylunio talentog a fynychodd y seremoni y noson honno. Gyda chyffro a momentwm y wobr gyntaf hon, parhaodd y seremoni gydag enillwyr gwobrau Aur o bob categori yn casglu eu gwobrau wrth i westeion y noson, y cyflwynydd Yasmine Blair ac Uwe Cremering, Prif Swyddog Gweithredol iF, rannu'r straeon y tu ôl i bob prosiect buddugol.

Yn ystod y noson gwelwyd timau prosiect yn casglu gwobrau am ryngwynebau llyfn ac ystyriol; defnydd clyfar, syml o ddeunyddiau; cynhyrchion cynhwysol a deniadol; pacio a chyfathrebu ac amgylcheddau trochi cyffrous.

Wrth i’n tîm fyfyrio ar y digwyddiad y diwrnod canlynol a thrafod prosiectau’r enillwyr Aur, cawsant eu hysgogi i edrych i’r dyfodol a sut rydym yn parhau i wthio ffiniau ym maes dylunio i greu cynhyrchion a phrofiadau sy’n cyffroi ac yn arloesi ac yn canolbwyntio ar y defnyddwyr. Gwnaeth Dieter Rams i’r tîm feddwl, sut allwn ni wneud 'llai ond yn well', tra bod prosiectau buddugol eraill wedi ein hysbrydoli ymhellach i adeiladu ar dueddiadau neu i symud i ffwrdd oddi wrthynt i greu dyluniadau newydd sy'n gwneud gwahaniaeth fel y gallwn barhau i fynd am y wobr aur.