Dylunio ar gyfer Democratiaeth yn Fforwm Dylunio BEDA
Ym mis Hydref, ymunodd Piotr Swiatek, Ymchwilydd a Rheolwr Prosiect PDR, â'r gymuned ddylunio ryngwladol yn Kaunas, Lithwania fel rhan o Fforwm Dylunio BEDA (Biwro Cymdeithasau Dylunio Ewropeaidd). Fel aelod o fwrdd BEDA, cymrodd Piotr yr awenau yn sawl un o'r gweithgorau yn ystod yr wythnos, a oedd yn canolbwyntio ar thema Dyfodol Dylunio.
Fforwm Rhwydweithiau Dylunio Rhyngwladol
"Mae pob person yn haeddu byw mewn byd sydd wedi'i ddylunio'n dda" - meddai Datganiad Dylunio Montreal, y'i datblygwyd a'i llofnodwyd gan gynrychiolwyr cymunedau dylunio rhyngwladol yn Uwchgynhadledd Dylunio'r Byd yn 2017. Roedd yn garreg filltir mewn polisi dylunio ar raddfa fyd-eang, gan gysoni ymdrechion cydweithredol mwy na 700 o gymdeithasau proffesiynol, ysgolion dylunio a rhanddeiliaid, a gynrychiolwyd gan y llofnodwyr i ddefnyddio potensial dylunio er budd pawb.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, casglodd Kaunas, Prifddinas Diwylliant Ewrop a Dinas Dylunio UNESCO, rwydweithiau dylunio byd-eang ynghyd eto i gyfnewid syniadau ar sut i ddylunio byd gwell gan ddechrau ar raddfa dinas. O dan yr arwyddair "dylunio hapusrwydd", bu'r gynulleidfa ryngwladol yn trafod sut i wneud bywyd trefol yn fwy boddhaol. Fe wnaeth cynrychiolwyr o gymunedau dylunio fynychu’r wythnos o gyfarfodydd, seminarau a chynadleddau, megis Rhwydwaith Dinasoedd Dylunio UNESCO, icoD (Cyngor Dylunio Rhyngwladol), BEDA (Biwro Cymdeithasau Dylunio Ewropeaidd), EIDD (Dylunio ar gyfer Ewrop Gyfan) a WDO Design Capital Valencia, ymhlith eraill.
Roedd Kaunas yn gefndir perffaith i'r trafodaethau hyn. Tyfodd yn gyflym yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd (1919-1939) ac erbyn hyn, gall ymfalchïo mewn enghreifftiau gwych o bensaernïaeth a dyluniadau o optimistiaeth a chynnydd – y moderniaeth.
Fy mhrif nod wrth fynychu'r Fforwm oedd ymgysylltu â'r gymuned ddylunio ryngwladol i drafod pwnc fy astudiaeth archwiliol, sef dylunio ar gyfer democratiaeth, fel rhan o Gymrodoriaeth yr Academïau Byd-eang. Yn ystod Fforwm BEDA ar 12fed a 13eg Hydref, fe wnes i hwyluso trafodaethau ar ddyfodol polisi dylunio a rôl dylunio mewn democratiaeth.
Dros y blynyddoedd, mae fy arfer polisi dylunio wedi fy arwain at fod yn fwyfwy astud i'r drafodaeth ehangach ar yr economi, cymdeithas, yr amgylchedd, diwylliant, a gwleidyddiaeth. Mae gweld y cyd-destun ehangach hwnnw'n helpu i nodi meysydd lle gallai rhinweddau trawsnewidiol dylunio gael effaith gadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r heriau.
Trwy gyd-drafod a mapio creadigol, gwnaethom nodi meysydd polisi ar gyfer y polisi dylunio i’r dyfodol: diwydiant, digidol, sgiliau ac addysg, a diwygio democrataidd. Rhoddwyd blaenoriaeth i ystyriaethau’r hinsawdd ym mhob cam gweithredu polisi dylunio. Yn yr Anthroposen – oes dyn, lle mae pobl wedi dylanwadu ar bopeth ar y blaned mewn rhyw ffordd neu'i gilydd; mae angen i gamau gweithredu polisi dylunio gael eu harwain gan 'y natur'. Mae angen gweld gwerthoedd a chyfrifoldebau dylunio drwy lens cynaliadwyedd.
Roedd llawer o’r trafodaethau’n ymwneud â newid paradeimau – o dwf i ddad-dwf, o fod yn gystadleuol i fod yn gydweithredol, o drefoli i feithrin pob man, o arloesi i fod yn gallach am yr hyn sydd gennym ar waith, ac o ddigideiddio i wneud defnydd da o dechnoleg. Fe wnaethom lunio adeiladwaith cysyniadol o bolisi dylunio, gan ystyried y sylfeini, y pileri a'r to – yr uchelgais. Gwasanaethodd fel trosiad defnyddiol ar gyfer pa elfennau sydd eu hangen i lunio cenadaethau cynhwysfawr ar gyfer polisi dylunio.
Roedd yr amser yn gyfyngedig, ond ar ôl prosesu ein trafodaethau a'r dadansoddiad cyd-destun yn gyflym, cynigiais iteriad cyntaf o genadaethau ar gyfer dylunio sy'n cyffwrdd â'r rhan fwyaf o'r meysydd polisi:
- Dylunio ar gyfer byw'n well yn lleol
- Dylunio ar gyfer lles
- Dylunio ar gyfer diwygio democrataidd
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i ymhelaethu ac ehangu'r cenadaethau hynny ymhellach ac rwy'n falch iawn o allu parhau â'r gwaith hwnnw drwy fy Nghymrodoriaeth Academïau Byd-eang a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol drwy arwain gwaith Polisi Dylunio BEDA. Fy nghamau nesaf dros y misoedd sydd i ddod fydd casglu mewnwelediadau a barn arbenigol drwy gyfweliadau a gweithgor BEDA i gynnig ffordd o weithredu i’r dyfodol ar gyfer dylunio ar gyfer polisi.
Camau Nesaf
Dysgwch ragor am Ymchwil Polisi Dylunio PDR, neu i drafod, cysylltwch â ni
Lluniau gan Darius Gumbrevičius