Heriau arferion dylunio cynaliadwy: Mewnwelediadau o gyflwyniad PDR yng Nghynhadledd Dylunio Rhyngwladol 2023
Bythefnos yn ôl, mynychodd PDR y Gynhadledd Dylunio Rhyngwladol (IDC) yn Ninas Efrog Newydd. Fe wnaeth ein cysyniad Tabu* dderbyn gwobr Aur IDEA, a bu’r achlysur yn arbennig o arwyddocaol wedi i’r Gymdeithas Dylunwyr Diwydiannol America (IDSA) benodi’r Cyfarwyddwr Jarred Evans i siarad ar ddylunio Sero Net mewn cyd-destun masnachol.
Mae'r IDC yn ddigwyddiad mawr i ddylunwyr ar draws y byd ac mae'n denu rhai o'r ffigurau mwyaf enwog yn y diwydiant. Wrth drafod pwysigrwydd y digwyddiad, esboniodd Jarred, “Mae’r gynhadledd yn wych oherwydd gallwch chi rannu profiadau a chael gwybod am yr hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill ar draws y byd trwy wrando ar siaradwyr gwych. Mae'n gyfle rhwydweithio gwych, a bod gyda'ch cyfoedion yw'r ffordd orau o ddysgu, ond mae'n bwysig rhoi rhywbeth yn ôl hefyd."
Roedd cyflwyniad Jarred yn canolbwyntio ar yr arfer o gynaliadwyedd a dylunio, maes twf allweddol o fewn PDR. Mae gennym eisoes brofiad helaeth o fewn y sector, ar ôl derbyn gwobrau Green GOOD DESIGN ac iF Design am ei gysyniad Brace Packaging yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â Gwobr Arloesedd Almaeneg 2023 am ein gwaith ar yr olwyn llywio Cercle. Wrth fyfyrio ar ei gyflwyniad, eglurodd Jarred, “Roedd yn hollbwysig trin a thrafod heriau dylunio ac adeilaud cynaliadwy. Tynnais ar y rhwystrau a’r problemau yr oeddem wedi’u hwynebu yn ein prosiect, yr atebion a ddatblygwyd gennym, a’r gwersi a ddysgwyd gan nad oes atebion perffaith.”
"Mae camau bach i’r cyfeiriad cywir yn well na dim.”
Jarred Evans | Cyfarwyddwr | PDR
“Gyda’r cyflwyniad hwn, roeddem am bwysleisio pwysigrwydd rhannu nid yn unig arferion gorau ond unrhyw arfer – oherwydd os na wnawn ni, ni fydd dim yn gwella. Elfen hanfodol yw bod yn rhaid i gynaliadwyedd fod yn gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol. Os ydych chi'n creu cynnyrch sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, ac eto mae'n methu â gwerthu, cysylltu, neu fynd i mewn ac aros yn y farchnad - mae'n oferedd oherwydd nid yw'n newid unrhyw beth, ac rydym am newid pethau er gwell. Mae camau bach i’r cyfeiriad cywir yn well na dim.”
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i siarad yn y digwyddiad hwn, i gymryd rhan mewn dysgu a meddwl cydweithredol pellach gydag arbenigwyr eraill yn y diwydiant. Cafodd y cyflwyniad dderbyniad da gan ein cyfoedion ac rydym yn edrych ymlaen yn barod at y gynhadledd flwyddyn nesaf!