Sut wyddom ni fod dylunio’n cael effaith?
Yn ddiweddar, buom yn archwilio'r cysyniad o fesur effaith gymdeithasol dylunio - sut ydyn ni’n ei 'gael' a pham y gall fod yn allbwn mor allweddol o'r broses ddylunio. Ond sut ydyn ni’n mesur effaith mewn gwirionedd, boed yn gymdeithasol neu fel arall? Ac a ddylai pob dyluniad greu effaith hyd yn oed? Er mwyn archwilio'r pwnc ymhellach, siaradwn â Piotr Swiatek, Rheolwr Prosiect, ac Oliver Sutcliffe, Dylunydd, i ddysgu rhagor.
“Gan gymryd agwedd athronyddol, mae popeth rydyn ni'n ei wneud neu ddim yn ei wneud yn creu effaith,” dywed Piotr. “Mater i ni wedyn yw sut rydyn ni'n mesur ac yn asesu'r hyn a wnawn. Mae’r meddyliwr dylunio mawr Victor Papanek yn enwog am ddweud: 'Mae yna broffesiynau sy’n fwy niweidiol na dylunio diwydiannol, ond dim ond ychydig'. Cyhuddwyd dylunio’n aml o gael effaith negyddol - mae'n cynhyrchu arfau, gall fod â darfodiad yn gynwysedig ynddo neu ddiffygion critigol sy'n effeithio arnom - mae'r rhestr yn parhau. Felly ein lle ni fel dylunwyr yw sicrhau bod dylunio’n cael effaith dda.”
Mae yna sawl ffordd y gall dylunio greu effaith. Yn gyntaf oll, gallwn feddwl am effaith mewn iaith fusnes gan ddefnyddio rhifau - felly gall dylunio effeithio'n aruthrol ar berfformiad busnes trwy greu gwerthiannau newydd, a mwy o elw. Mae hynny wedyn yn golygu agor marchnadoedd newydd, creu swyddi newydd neu gynyddu allforion.
“Ond wrth edrych yn fanylach ar ddiwylliant busnes, gall dylunio hefyd newid prosesau mewnol, gan eu gwneud nhw’n symlach ac yn fwy effeithiol, a chyflymu'r broses o brototeipio, profi a dod â chynhyrchion newydd i'r farchnad. Gall wella boddhad a chynhyrchiant gweithwyr trwy greu delwedd brand mewnol ac allanol, a all gynyddu teyrngarwch cwsmeriaid a mwy,” â Piotr yn ei flaen. “Dyma ffyrdd diriaethol, mesuradwy y gall dylunio effeithio ar fusnesau.”
“Nod dylunio fel proses yw manteisio i'r eithaf ar yr effaith yr ydych chi eisoes yn ceisio ei chreu,” ychwanega Ollie. “Er enghraifft, fe allech ddylunio system ‘canfod y ffordd’ ddiwerth ar gyfer dinas – sy’n dal i gael effaith, er ei bod yn negyddol. Ond o'i dylunio gan ddefnyddio meddwl Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, mae dylunio’n mwyhau’r effaith.”
Felly, mae pob dylunio’n creu effaith - ond a ddylai? A all dylunio fod yn ddylunio er mwyn dylunio’n unig? “Mae hyd yn oed dylunio sy’n cael effaith negyddol yn mynd ymlaen i lywio penderfyniadau yn y dyfodol er gwell - felly gallech ddadlau bod gan bob effaith ei rôl i'w chwarae!” dywed Ollie.
“A gall effaith fod yn heriol i'w mesur, ond mae sawl ffordd o’i wneud,” eglura Piotr. “Gellir ei mesur fel diwydiant, a faint o werth gros a ychwanegir ganddi at yr economi gyfan. Gellir ei mesur fel gweithlu; faint o bobl sy'n gweithio, a pha mor gynhyrchiol ydyn nhw. Mae gwobrau, dyluniadau cofrestredig a nodau masnach yn ffordd arall o'i mesur - neu sut mae'n helpu i ddod â datblygiadau newydd i'r farchnad. Mae yna fesur hefyd sy’n seiliedig ar ymholiadau uniongyrchol i fusnesau. Ond gan fod dylunio’n 'beth' mor anodd i seilio canlyniadau arno, mae’r fethodoleg orau i’w fesur yn dal i fod yn rhyw fath o 'Greal Sanctaidd' i ymchwilwyr dylunio! Dyna pam fod effaith yn seiliedig ar ganfyddiad yn aml iawn, ond am y tro, mae'n debyg mai honno yw ein ffordd orau o'i mesur.”
Gall mesur effaith dyluniad fod yn oddrychol yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ceisio'i adeiladu.
Ollie Sutcliffe | DYLUNYDD GRAFFIG | PDR
“A gall mesur effaith dyluniad fod yn oddrychol yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ceisio'i adeiladu,” â Ollie yn ei flaen. “Os ydych chi’n datblygu gwasanaeth, er enghraifft, gallai fod yn gyfradd llwyddiant defnyddwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Ar gyfer darn o feddalwedd, gallai fod yn nifer y cam-gliciau a wneir wrth wneud cynnydd drwy'r system. Os yw'r cynnyrch gorffenedig wedyn yn bodloni'r meini prawf yn well nag yr oedd o'r blaen, mae hynny'n brawf o fesur a mynd i'r afael ag effaith.”
Po fwyaf eang y datblyga’r effaith, yr anoddaf ydyw i’w meintioli a'i mesur - ond rydym yn dal i allu ei chanfod a'i chofnodi. “Gyda'n prosiect Female Brace, er enghraifft, buom yn gweithio gyda'r cleient i gynhyrchu system well ar gyfer defnyddwyr na'r hyn a oedd ar gael o'r blaen, ac fe’i dyluniwyd wrth ddefnyddio meddwl sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gellir dweud yr un peth am Shield. Cynlluniwyd y cynhyrchion hyn i wella a disodli’r cynigion blaenorol er mwyn gwella ansawdd bywyd y defnyddiwr - mae eu heffaith yn anfesuradwy ond yn ddiamau’n amlwg ar yr un pryd.”
Felly, boed hynny drwy ganlyniadau amlwg - cynnydd mewn gwerthiant, ymholiadau newydd, adborth gwell gan gwsmeriaid - neu drwy weithredu'r broses ailadroddol o adeiladu, mireinio a gwella dyluniad, gellir canfod effaith (cadarnhaol neu fel arall) bob amser.
CAMAU NESAF
Dewch i ddarganfod y prosiectau PDR diweddaraf, neu i drafod syniad newydd, cysylltwch â ni.