Ymunwch â Ni yn nigwyddiad Arab Health 2025: Arloesi mewn Gofal Iechyd
Y mis hwn, rydym yn teithio i ddigywddiad Arab Health yn Dubai, Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig, dyma lle bydd y byd gofal iechyd yn cwrdd, ar 27-30 Ionawr 2025.
Cydnabyddir y digwyddiad yn eang fel y sioe fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol i'r sector meddygol gan ddenu dros 3,800 o arddangoswyr o fwy na 180 o wledydd. Mae eleni’n nodi 50fed flwyddyn Arab Health, un o bri ddigwyddiadau’r diwydiant gofal iechyd. Gyda’n profiad helaeth o fewn Dylunio Dyfeisiau Meddygol, mae’n lle gwych i ni gysylltu â chleientiaid a chysylltiadau hen a newydd.
Bydd ein Cyfarwyddwr Jarred Evans yn ymuno â'r Rheolwr Masnachol Julie Stephens, am y tro cyntaf i ni arddangos yn y digwyddiad. Os ydych yn bwriadu mynychu, gallwch ymuno â ni i ddal i fyny yn Neuadd 2, ar stondin G30.
Os hoffech drefnu amser penodol i gyfarfod, cysylltwch â ni. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno.