Layr yn bachu Gwobr Ddylunio’r Almaen 2019
Yn dilyn llwyddiant Gwobr Ddylunio iF 2018, mae Layr bellach wedi ennill Gwobr Ddylunio’r Almaen 2019 ar gyfer Dylunio Cynnyrch Rhagorol yn y categori Gofal Meddygol, Adsefydlu ac Iechyd.
Gwobr Ddylunio’r Almaen yw un o'r gwobrau dylunio rhyngwladol mwyaf adnabyddus, sy'n anrhydeddu ceisiadau o'r radd flaenaf ym maes dylunio cynnyrch a chyfathrebu. Yn ôl Cyngor Dylunio’r Almaen, "Dim ond i brosiectau sy'n cynrychioli cyfraniadau arloesol i'r Almaen a’r dirwedd ddylunio ryngwladol y dyfernir gwobrau."
Yn gynnyrch arloesol yn ôl y beirniaid, mae Layr yn cynnig dull chwyldroadol sy'n dod â manteision clinigol, ymarferol a seicolegol clir o safbwynt y defnyddiwr i broblemau sy’n gysylltiedig â chael cathetr dros nos.
Mae'n disodli bag PVC canol yr ugeinfed ganrif gyda 'fflasg' gysylltiedig, ddeallus sy'n gallu dod ag arbenigedd clinigol i'r cartref, ac yn dileu'r anawsterau ymarferol sy'n gysylltiedig â systemau sy'n bodoli eisoes.
DATGANIAD Y BEIRNIAID
‘Gyda’r dyluniad modern a gwych o anghonfesiynol hwn, mae Layr wedi dileu’r stigma sy’n gysylltiedig â gwisgo bag wrin, gan eu gwneud yn haws o lawer eu defnyddio i gleifion. Mae integreiddio technoleg graff yn y cynnyrch yn galluogi swyddogaethau a manteision ychwanegol – sydd gyda’i gilydd yn creu cynnyrch arloesol ar ôl degawdau o ddiffyg datblygiadau dylunio yn yr achos hwn
Dywedodd Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR, "Dyma wobr ddylunio ryngwladol fawr arall i PDR a Layr. Mae gwybod ein bod yn dylunio cynhyrchion sy'n gwneud gwahaniaeth yn eithriadol o bwysig i'r tîm yn PDR ac mae'n wych derbyn y lefel gyson hon o gydnabyddiaeth."
Mae gwybod ein bod yn dylunio cynhyrchion sy'n gwneud gwahaniaeth yn eithriadol o bwysig i'r tîm yn PDR ac mae'n wych derbyn y lefel gyson hon o gydnabyddiaeth.
JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR