Gorffennol, presennol a dyfodol dylunio sy'n benodol i gleifion
Dylunio dyfeisiau meddygol sy'n benodol i gleifion yw'r grefft o ddylunio ac adeiladu cynhyrchion sy'n gweddu'n benodol i unigolyn unigryw - mae'r Athro Dominic Eggbeer, sy'n arwain y grŵp Ymchwil Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetig yn PDR, yn edrych ar orffennol, presennol a dyfodol yr arfer hwn.
Ar ôl arloesi yn y dulliau modern ers diwedd y 1990au, mae Dominic a'i dîm yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru ac ysbytai ledled y byd i barhau i fireinio'r broses lawfeddygol gymhleth.
Yn ein fideo ddiweddaraf, mae Dominic yn archwilio gwreiddiau a chynnydd yn nyluniad dyfeisiau meddygol sy'n benodol i gleifion. O fewnblaniadau plygu corfforol yn ystod llawdriniaeth i drin milwyr a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, i'r technolegau CAD 3D cyfredol a ddefnyddir heddiw, mae'n archwilio sut mae'r arfer wedi datblygu diolch i ddyfodiad tomograffeg gyfrifiadurol a thechnolegau newydd eraill.
Gwyliwch y fideo i archwilio'r pwnc ymhellach, a darllenwch ein herthygl ddiweddar ar hanes SPD yn PDR.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr SPD Academy.