PDR yn ennill Arian yn IDEA 2022 ar gyfer Masg Wyneb Umiko
Mae PDR wedi ennill Arian yng Ngwobrau Rhagoriaeth Dylunio Rhyngwladol (IDEA) 2022, ac rydym yn eithriadol o falch o rannu'r newyddion hyn. Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan!
Beth yw IDEA?
Y Gwobrau Rhagoriaeth Dylunio Rhyngwladol yw un o'r rhaglenni gwobrau dylunio mwyaf hirhoedlog a mawreddog sy’n hysbys. Fe’i cynhelir yn flynyddol gan Gymdeithas Dylunwyr Diwydiannol America (IDSA), mae 2022 yn nodi eu 42ain flwyddyn yn olynol, ac rydym yn falch o fod yn rhan ohoni!
Sefydlwyd y rhaglen gyntaf i anrhydeddu llwyddiant eithriadol mewn dylunio diwydiannol, ond ers hynny mae wedi ehangu i gynnwys arloesi mewn amrywiol feysydd cysylltiedig, megis strategaeth ddylunio, brandio, rhyngwyneb digidol, a llawer mwy. O ganlyniad, gosododd IDEA y safon o ran yr hyn y mae gwobr dylunio’n ei olygu. Mae wedi llwyddo i ddod yn gatalydd sy'n pennu gyrfa, sy’n golygu mai IDEA yw un o'r rhaglenni gwobrau blynyddol mwyaf ac y disgwylir yn fwyaf eiddgar amdani ledled y byd.
Ynglŷn â Masg Wyneb Umiko
Masg wyneb amddiffynnol yw Umiko sy’n defnyddio deunydd wedi'i wneud o algâu’r môr cynaliadwy. Cyn pen saith diwrnod o’i waredu, mae'r sylwedd hwn yn diraddio'n llwyr mewn dŵr heb unrhyw effeithiau parhaol. Caiff y deunydd hwn a ddaw o ffynhonnell gynaliadwy ei wehyddu i ddalennau fflat a'i ddeistampio i greu opsiwn rhad, ar raddfa fawr, ar gyfer defnydd bob dydd o fasgiau.
Yn debyg i fasgiau N95 o ran nodweddion hidlo ac anadladwy, mae’r masg wedi’i gynllunio i fod yn ysgafn ac yn gyfforddus. Gellir ei addasu'n hawdd ac yn gyflym i ffitio wyneb defnyddiwr. Mae hydrinedd cynhenid y deunydd yn caniatáu ar gyfer addasiadau dros bont y trwyn a'r wyneb; mae hefyd yn addasadwy o amgylch y clustiau i sicrhau ei fod yn ffitio fel maneg.
Ein barn ar y gwobrau
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt Dylunio PDR, Ben Nolan: “Mae'n wych ennill gwobr ddylunio mor fawreddog am ateb arloesol a chynaliadwy i broblem y byd go iawn.
Roedd y prosiect yn gydweithrediad rhwng grŵp ymchwil dylunio cynaliadwy PDR a thimau dylunio cynnyrch masnachol. Mae’r cydweithio wedi arwain at gysyniad sydd wir yn gwthio ffiniau’r hyn rydyn ni’n ei ystyried sy’n bosibl. Mae Umiko’n defnyddio deunydd sy'n seiliedig ar algâu’r môr sy'n toddi mewn dŵr ac sy’n diraddio cyn pen saith diwrnod mewn dŵr. Mae’r defnydd arloesol o ddeunyddiau newydd a chynaliadwy, ynghyd â dylunio diwydiannol soffistigedig, wedi arwain at enillydd haeddiannol iawn.”
Canmoliaeth bellach
Fe wnaeth ddau brosiect arall gan PDR dderbyn canmoliaeth 'Teilyngwr' yn yr IDEA hefyd.
Cymorth Sefyll Pediatrig yw Stand a ddyluniwyd yn benodol o safbwynt sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda ffurf, dewis deunydd a gorffeniad sydd wedi'u cynllunio i annog defnydd a lleihau stigma i blant a rhieni heb gyfaddawdu ar ymarferoldeb; a’r crib datod clymau cyntaf a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer anghenion y gymuned Gwallt Affro a Du yw Datodwr Clymau Moethus Nyfasi.
Mae gwaith o'r fath yn cyfleu ymroddiad PDR i arloesi dan arweiniad dylunio. Fel bob amser, rydym wrth ein bodd o weld ein gwaith yn cael ei gydnabod ar raddfa fyd-eang.
Camau Nesaf
Dysgwch ragor am waith arobryn PDR - neu i ddechrau eich prosiect eich hun, cysylltwch â ni.