The PDR logo
Awst 21. 2024

SED y DU yn lansio cynllun cymorth ariannol newydd i fusnesau bach a chanolig

Rydym yn falch o rannu datblygiad a allai fod o ddiddordeb i’n partneriaid busnesau bach a chanolig sy’n dymuno deall, amddiffyn a masnacheiddio eu heiddo deallusol:

Yn ddiweddar, lansiodd Sefydliad Eiddo Deallusol y DU (SED) gynllun cymorth ariannol newydd i fusnesau bach a chanolig, sef IP Advance. Nod y cynllun yw helpu busnesau bach a chanolig twf uchel i gael mynediad at arbenigedd proffesiynol i drosoli eu hasedau Eiddo Deallusol (ED).

Mae dwy lefel o gefnogaeth, a gall busnesau wneud cais am naill un neu’r llall, neu’r ddau:

  • Mae’r archwiliad IP Audit yn darparu cyllid rhannol o £2,250 (gan gynnwys TAW), tuag at gost archwiliad ED, a gynhelir gan weithiwr ED proffesiynol, cymwys. Rhaid i’r busnes gyfrannu £750 (gan gynnwys TAW) tuag gost gyffredinol yr archwiliad. Bydd y busnes yn derbyn adroddiad Archwilio Eiddo Deallusol pwrpasol gydag argymhellion, amcanestyniadau cost a llinell amser awgrymedig i’w gweithredu. Fel rhan o archwiliad IP Audit, bydd y busnes hefyd yn cael cyfarfod dilynol i drafod argymhellion yr adroddiad gyda’r gweithiwr ED proffesiynol.
  • Mae IP Access yn darparu cyfraniad o hyd at £2,250 (gan gynnwys TAW) ar gyfer cyngor ED proffesiynol i ddatblygu strategaeth rheoli ED neu weithredu argymhellion o’u harchwiliad ED. Rhaid i’r busnes gyfrannu isafswm o 50% tuag at gost y gwasanaethau a wneir gan eu gweithiwr ED proffesiynol o dan IP Access i fod yn gymwys i gael cymorth.

Mae’r cynllun IP Advance yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl drwy bartneriaid rhanbarthol SED y DU: cwmni Innovate UK Business Growth, Llywodraeth Cymru, Scottish Enterprise, Highlands and Islands Enterprise, South of Scotland Enterprise, ac Invest Northern Ireland. Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â'r partner perthnasol ar gyfer eich rhanbarth.

Yma yn PDR, rydym yn croesawu lansiad y cynllun hwn gan y SED a'r cyfle y mae’n ei roi i fusnesau bach a chanolig, llawer ohonynt rydym yn gweithio gyda nhw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ar eich prosiect nesaf, cysylltwch neu os hoffech ddeall sut rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn dylunio ac ymchwil i yrru llwyddiant ac arloesedd i fusnesau, gwyliwch y fideo byr hwn: Sut gall PDR gefnogi busnesau?