Helpu S4C i Ddatblygu ei Arlwy gyda ‘Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr’
Yn gynnar yn 2020, fe wnaeth S4C, darlledwr rhanbarthol Cymru, benderfynu bod angen iddynt ddeall eu defnyddwyr yn well nag erioed – nid oedrannau neu rywedd yn unig, ond y ffordd roedden nhw’n defnyddio S4C a Clic, ei wasanaeth ffrydio, a’r ffordd y gallai hyn ddylanwadu ar ddatblygiadau yn y dyfodol er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol.
Fe wnaeth S4C gydweithio â ni a’n partneriaid Clwstwr er mwyn ystyried dyfodol darpariaeth ddigidol teledu Cymraeg. Cynlluniwyd a chynhaliwyd prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr – egwyddor ddylunio o roi ffocws ar ddefnyddiwr terfynol arfaethedig cynnyrch neu wasanaeth.
Beth yw’r gwir her yma?’ a ‘Pam ydyn ni’n credu bod yna angen o bosibl i newid y ffordd mae S4C yn ymgysylltu â phobl ar blatfform ar-lein'?
YR ATHRO ANDREW WALTERS | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR
Mae defnyddio dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn lleihau’r risg o wneud tybiaethau neu ragfarn gadarnhau. Fel gwasanaeth digidol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, roedd yn hanfodol bod S4C yn gallu gwneud penderfyniadau yn y dyfodol yn seiliedig ar bobl, nid rhifau’n unig, ac i sicrhau bod eu hamcanion cyfredol yn cyd-fynd â hanfodion gwasanaeth ffrydio’r unfed ganrif ar hugain ar gyfer cynulleidfaoedd modern.
Roedd yr Athro Andrew Walters, Cyfarwyddwr Ymchwil, a Jo Ward, Dylunydd Ymchwil, yn allweddol yng nghyfraniad PDR i’r gwaith gydag S4C - yma, maen nhw’n trafod y prosiect a sut gwnaeth y prosiect esblygu.
CANFOD SUT MAE POBL YN YMGYSYLLTU Â THELEDU HEDDIW
“I gychwyn, roedd angen i ni gael yr holl randdeiliaid perthnasol gyda’i gilydd,” eglura Andy. “Roedd angen i ni ofyn cwestiynau fel, ‘Beth yw’r gwir her yma?’ a ‘Pam ydyn ni’n credu bod angen newid y ffordd y mae S4C yn ymgysylltu â phobl ar blatfform ar-lein?’”
Mae hyn oll yn rhan o ddull gweithredu PDR, sef diffinio’ch cynnyrch nesaf yn fanwl fel y trafodwyd mewn erthygl ddiweddar gyda Jarred Evans, cyfarwyddwr PDR. Cyn gwneud newidiadau, rydyn ni angen gwybod pam y gallai’r newidiadau hynny fod yn angenrheidiol a manylion unrhyw broblemau posibl.
“Roedd rhan o ymholiad S4C yn deillio o’r dadansoddiadau oedd ganddyn nhw hyd hynny,” meddai Jo. “Roedd ganddyn nhw lawer iawn o ddadansoddiadau technegol defnyddiol, fel demograffeg pobl sy’n gwylio rhaglenni penodol, ac oedrannau a rhywedd gwylwyr – ond doedd ganddyn nhw ddim gwaith ymchwil lle’r oedden nhw wedi mynd ati i ymgysylltu â gwylwyr er mwyn canfod sut roedden nhw’n defnyddio’r gwasanaeth.”
Cytuna Andy. “Roedd eu holl ddata yn dod gan bobl a oedd eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth, felly doedd dim manylion am y bobl oedd ddim yn ymgysylltu â S4C. Yr hyn roedden ni am ei wybod oedd, ‘Beth am bawb arall a sut mae S4C yn rhan o’u bywydau?’”
CYNNAL Y GWAITH YMCHWIL UCD
“O’n gweithdy cyntaf un, dechreuon ni ddiffinio’r bobl sy’n bwysig i S4C a pham eu bod yn bwysig. Un darganfyddiad allweddol yma oedd ynghylch y rhai sy’n byw mewn aelwydydd gallu cymysg, lle mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg i wahanol raddau.
“Yn yr aelwydydd hyn, roedd disgwyl bron y byddai gan S4C rywfaint o rôl ym mhrofiad y bobl hyn o deledu– arweiniodd hyn at fynd ati i archwilio rhai o’r tybiaethau a oedd gan S4C o’u dadansoddiadau presennol, ond roeddem am wybod hefyd sut yn union y mae pobl yn defnyddio S4C.
“Sut mae’n cyd-fynd â’u bywydau bob dydd? Sut mae pobl yn rhoi S4C ymlaen, beth maen nhw’n ei wylio, pam maen nhw’n gwneud eu penderfyniadau o ran gwylio?”
Ar y pwynt hwn, roedden ni angen cynnal ymchwil ddesg i’r ffordd y mae ieithoedd lleiafrifol eraill yn ymgysylltu â’r cynnwys.
Eglura Jo, “Rydyn ni wedi ystyried darlledwyr ieithoedd lleiafrifol amrywiol gan gynnwys ieithoedd Llydaweg, Basgeg, Catalan a Maori. Fe wnaeth Ruth McElroy ym Mhrifysgol De Cymru rannu gwaith ymchwil ar y ffordd y mae’r darlledwyr eraill hyn yn cyflwyno eu gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr.”
O’r gwaith ymchwil hwn, datblygwyd yr arolwg a’r cwestiynau ar gyfer cyfweliadau rhithwir, lle’r oeddem ni’n gallu archwilio’r ffordd yr oedd S4C yn gweithio fel rhan o wead bywyd pob dydd pobl.
Yn gyntaf, rhoddwyd arolygon ar blatfformau digidol, fel grwpiau Facebook, LinkedIn, a thrwy’r rhaglen ‘Cofleidio’r Gymraeg’ yn Met Caerdydd, a gynhelir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. O ganlyniad, cafwyd cannoedd o ymatebion, a’n galluogodd i ddatblygu’r cwestiynau ar gyfer cyfweliadau dilynol a dewis pobl i’w cyfweld.
O’r cyfweliadau, a’n gwaith canfod ffeithiau, roedd modd i ni ychwanegu at ddata S4C – a oedd yn gwbl feintiol neu’n anecdotaidd tan hynny – gydag ymchwil ansoddol sy’n seiliedig ar brofiad gan y defnyddwyr targed eu hunain.
“Roedd hyn arbennig o bwysig oherwydd gallai rhywfaint o’r data roedden nhw’n dibynnu arno fod yn gamarweiniol. Gallai’r ffaith fy mod i’n gwylio Pobol y Cwm fy ngosod yn y demograffeg menyw 60+!” meddai Jo, gan chwerthin. “Dyw’r data ddim yn rhoi darlun i chi o’r union ddefnyddiwr – ond mae ymchwil defnyddwyr yn gwneud hynny.”
Yn dilyn y prosiect, mae S4C wedi mynd ymlaen i gynnal mwy o’i waith ymchwil ei hun gyda grwpiau ffocws. Gan ddefnydddio’r canfyddiadau hyn fel sylfaen, mae’r sefydliad yn parhau i ddatblygu ei ddealltwriaeth o’i ddefnyddwyr wrth baratoi ar gyfer cyfnod digidol nesaf S4C… Gwyliwch y gofod hwn!
I ddysgu mwy am waith PDR neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.